Mawrth | March 2024
Y newyddion diweddaraf am eich cymuned
Mae Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf wastad yn gweithio ar wneud yr holl gymuned yn lle mwy cysurus ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r grŵp,Caru Benllech, am y gwaith gwerthfawr a chyson maen nhw’n ei wneud yn casglu sbwriel yn y Benllech. Heb os, mae hyn yn gwella ein hamgylchedd a’n cymuned yn arw iawn.
Wrth reswm mi allwn ni gyd helpu drwy gael gwared o’n sbwriel ni a sbwriel anifeiliaid yn y biniau.
Efallai eich bod wedi sylwi ar ychydig o ddatblygiadau yn ardaloedd gwyrdd ambell bentref o fewn y gymuned hefyd. Mae arwyddion pren wedi’u gosod mewn tair ardal yn barod gan osod enw newydd a diddorol i’r llain. Ym Mrynteg, mae’r arwydd Rhosfawr wedi’i osod dros y ffordd i dafarn y California gan enwi’r darn o dir yno yn “Marian Rhosfawr” gan cyfeirio at yr hen enw ar y pentref. Cyflwynwyd yr arwydd hwn gan y diweddar Cledwyn Rowlands, un o feibion Y Rhos. Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd werthfawr hon
Ar y ffordd fyny o’r traeth ar ffordd Trem y Traeth rhoddir yr arwydd “Marian Bach”, ac ar y llain gwyrdd ger y ffordd fawr wrth ymyl stad Maes Llydan, fe welwch yn fuan yr arwydd “Marian Wïon”, sy’n gyfeiriad at Groes Wïon sydd i’w gweld wrth ddod i mewn i’r pentref o gyfeiriad Pentraeth a Thraeth Coch.
Mae’n braf gweld y gromlech hardd ar Farian Wïon hefyd. Mae’r gromlech yn deillio o syniad gwreiddiol gan Caru Benllech, gyda chymorth cymdeithas dai Clwyd Alun, DU Construction, CCLlME a Caru Benllech.
Ar Farian Wïon a Marian Bach a’r sgwâr hefyd mae na feinciau newydd,wedi’u llunio yn llwyr o ddeunydd wedi’i ailgylchu, wedi’u gosod. Efallai eich bod wedi sylwi ar y geiriau ar y meinciau hyn, sef “Sêt Sgwrs”. Dyma gyfle i unrhyw un gael hoe fechan a gwahodd rhywun arall i eistedd ar y fainc am sgwrs a rhoi’r byd yn ei le. Mae’r seti sgwrs yn ymgais ar gyfer cynyddu ymwneud cymdeithasol rhwng ein trigolion a’n hymwelwyr.
Mi fydd meinciau’r gymuned i gyd yn Nhraeth Coch, Llanbedrgoch, Brynteg a’r Benllech yn rhan o broses raddol o gael eu huwchraddio yn ystod y misoedd nesaf fel bod digonedd o gyfle ar gyfer eistedd lawr yn yr awyr agored a gwerthfawrogi’r ardal fendigedig yma sydd o’n cwmpas ni.
Hyfryd, hefyd, oedd gweld cymaint o ddreigiau coch yn chwifio yn y siopau a busnesau yn ystod wythnos Gŵyl Ddewi yn dathlu diwrnod ein nawdd sant ar y cyntaf o Fawrth.
Yn y dyfodol agos, byddwn yn llunio map rhyngweithiol o’r safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn y gymuned ar gyfer teithiau cerdded ag ati.
Cofiwch gadw llygaid am hwn.
Mawrth | March 2024
The latest news from your community
Llanfair Mathafarn Eithaf Community Council always strives to improve our villages for the benefit of our electors and visitors.
We are extremely thankful to the group, Caru Benllech, for the fantastic work they do collecting litter. Without a doubt, this work is so important in improving our environment and community.
All of us can help by binning our waste and our animal waste in the bins provided.
You may have noticed the developments in some of the green areas in the community. Wooden signs have been erected in three areas thus far naming them to create more interest. In Brynteg, the “Rhosfawr” sign can be seen on the square opposite the California, naming the green area of “Marian Rhosfawr” in reference to the former name of the village. This sign was gifted by the late Cledwyn Rowlands who was one of the sons of Y Rhos. We’re very grateful for this precious gift.
On Bay View Road, the green area on the way leading from the beach has been named “Marian Bach”, and the green area on the main road by Maes Llydan has been named “Marian Wïon” in reference to “Croes Wïon” (Gwïon’s Cross) which can be seen on the left hand side of the road when you enter the village from Pentraeth and Red Wharf.
It’s a pleasure to view the beautiful “cromlech” on Marian Wïon as well. The erection of the “cromlech” was the initial idea of Caru Benllech and the project came to fruition with the help of LlMECC, Clwyd Alun Housing Association, DU Construction and Caru Benllech.
Situated on Marian Bach, Marian Wïon and in the square there are new benches – all constructed of recycled material. You may have noticed that these benches are called “Friendship Benches”. They provide an opportunity for villagers and visitors to take a short break and start a conversation with another friend or new associate. The main aim of these benches is to increase community interaction between people
All benches in our community in Red Warf, Llanbedrgoch, Brynteg and Benllech will benefit from LlMECC’s benches upgrade project in the course of the next few months so that we have plenty of opportunity to sit down in the open air and appreciate the beautiful area around us.
It was so uplifting to see so many Welsh Dragons flourishing in shops and businesses during St. David’s week celebrating our patron saint’s day on the 1st of March.
In the very near future, we will create an interactive map of the historical and interesting locations in our community to enable walking tours and so on.
Keep an eye out for new developments!